Rwyf wedi anghofio fy Nghyfrinair – Beth ddylwn i ei wneud?
Os ydych chi wedi anghofio eich cyfrinair:
- O Fy Iechyd Ar-lein - Mewngofnodi, dewiswch Oes angen help arnoch I fynd at eich cyfrif?:
- Bydd y sgrin Adfer Cyfrif yn ymddangos, dewiswch Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinair:
- Nodwch eich Enw defnyddiwr a rhoi tic wrth ymyl I’m not a robot:
- Bydd neges e-bost yn cael ei hanfon i’ch cyfeiriad e-bost â dolen i’ch galluogi i ailosod eich cyfrinair.Pwysig – Mae’r ddolen i ailosod cyfrinair yn dod i ben ymhen 24 awr.
- Cliciwch ar y ddolen Ailosod cyfrinair yn y neges e-bost a bydd y dudalen Adfer Cyfrif yn ymddangos. Rhowch y canlynol i ailosod eich cyfrinair:
- Cyfrinair newydd - Rhowch gyfrinair newydd, rhaid iddo gynnwys o leiaf un llythyren fach, un briflythyren ac un rhif (O leiaf 8 nod o hyd).
- Cadarnhau’ch cyfrinair – Teipiwch y cyfrinair newydd eto i’w gadarnhau.
- Cliciwch Ailosod cyfrinair.
Bydd eich cyfrinair wedi cael ei newid a gallwch ei ddefnyddio i fewngofnodi i Fy Iechyd Ar-lein.
Sylwer – I argraffu’r pwnc hwn, dewiswch y botwm argraffu yn y cornel uchaf ar y dde, a dilyn yr anogwyr ar y sgrin.